SL(5)157 – Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2017
Cefndir a diben
Gwneir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru ac mae'n darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau swyddogion canlyniadau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gweithdrefn
Dim gweithdrefn, ac nid oes rhaid i'r Gorchymyn gael ei osod gerbron y Cynulliad.
Craffu o dan Reol Sefydlog 21.7
Mae'r Gorchymyn yn offeryn statudol ond oherwydd nad oes rhaid ei osod gerbron y Cynulliad nid yw'r Pwyllgor yn adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3.
Mae'r Pwyllgor wedi ystyried a llunio adroddiad ar y Gorchymyn o dan Reol Sefydlog 21.7(v) (fel mater deddfwriaethol o natur gyffredinol o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru, neu sy’n ymwneud â’r cymhwysedd hwnnw).
Pwyntiau i gyflwyno adroddiad yn eu cylch:
Mae'r Pwyllgor yn nodi pwysigrwydd y Gorchymyn hwn a'r angen i dynnu sylw, yn arbennig, at y symiau ar gyfer “gwasanaethau penodedig” a “threuliau penodedig” y caiff swyddog canlyniadau eu hadennill mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir.
Nodir y symiau yn erthygl 4 o'r Gorchymyn (sy'n mewnosod Atodlen 1 newydd i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016).
Y “gwasanaethau penodedig” yw:
(a) gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;
(b) cynnal yr etholiad;
(c) cyflawni holl ddyletswyddau swyddog canlyniadau etholaeth mewn cysylltiad â’r etholiad.
Y “treuliau penodedig” yw:
(a) penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaeth;
(b) treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau etholaeth ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaeth;
(c) costau’r broses enwebu;
(d) argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;
(e) argraffu neu gynhyrchu fel arall neu brynu deunyddiau pleidleisio drwy’r post;
(f) argraffu neu gynhyrchu fel arall gardiau pleidleisio, a threfnu i’w dosbarthu;
(g) argraffu neu gynhyrchu fel arall yr holl hysbysiadau a dogfennau etholiad, a’u cyhoeddi;
(h) rhentu, gwresogi, goleuo, glanhau, addasu neu adfer unrhyw adeilad neu ystafell;
(i) darparu a chludo cyfarpar;
(j) darparu cyfarpar a meddalwedd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chostau cysylltiedig;
(k) darparu diogelwch, gan gynnwys storio blychau pleidleisio, papurau pleidleisio a dogfennau gwirio yn ddiogel;
(l) cynnal y gwirio a’r cyfrif;
(m) darparu a chael hyfforddiant;
(n) darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
28 Tachwedd 2017